Deall/Monitro Statws eich Presgripsiwn
Ar ôl gwneud cais, bydd eich ceisiadau am bresgripsiwn yn cael eu dangos yn Presgripsiynau – Hanes Ceisiadau gydag un o’r statysau canlynol:
- Ar waith – Cais newydd sydd heb gael ei brosesu gan eich meddygfa eto.
- Heb ei brosesu – Cais sydd heb gael ei brosesu gan eich meddygfa eto ac sy’n hŷn na 5 niwrnod.
- Wedi’i brosesu – Cais sydd wedi cael ei brosesu ac sy’n barod i’w gasglu.
- Wedi’i wrthod – Cais sydd wedi cael ei wrthod gan eich meddygfa:
Wrth brosesu eich cais am bresgripsiwn, gall eich meddygfa ychwanegu neges ato. Cliciwch + i weld y neges sy’n ymddangos mewn coch.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.